Is-raddedig
Cyrsiau 3 Blynedd
Fel rheol, dyma’r gofynion derbyn isaf ar gyfer cyrsiau 3 blynedd sy’n arwain yn uniongyrchol at Statws Athro Cymwysedig (SAC):
- TGAU Graddfa C neu uwch (neu gyfwerth) mewn Saesneg a mathemateg.
- Ar gyfer Cynradd, TGAU Graddfa C neu uwch (neu gyfwerth) mewn gwyddoniaeth.
- 2 lwyddiant mewn lefel-A (fel rheol, lleiafswm o 200 o bwyntiau UCAS) neu gyfwerth (gweler gofynion cyrsiau unigol am fanylion). Derbynnir y Fagloriaeth Gymreig.
- Rhaid ichi feddu ar y cymwysterau angenrheidiol cyn dechrau’r cwrs.
Cyrsiau 2 flynedd
Fel rheol, dyma’r gofynion derbyn lleiaf ar gyfer cyrsiau 2 flynedd sy’n arwain yn uniongyrchol at Statws Athro Cymwysedig (SAC):
- TGAU Graddfa C neu uwch (neu gyfwerth) mewn Saesneg a mathemateg.
- Cwblhau 1 flwyddyn mewn addysg uwch yn llwyddiannus (fel rheol, 120 o gredydau ar lefel 4) mewn pwnc/ pynciau cysylltiedig. Er enghraifft, HND, credydau’r Brifysgol Agored, cymwysterau galwedigaethol neu broffesiynol.
- A oes gennych gymwysterau o wlad dramor? Gwiriwch eich cymwysterau ar wefan NARIC.
- Cewch fwy o fanylion am y cyrsiau sydd ar gael ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd
Sefydliad Prifysgol Cymru, Caerdydd
Yn meddwl addysgu yn y sector uwchradd, ond heb feddu ar leiafswm y cymwysterau TGAU? Darllenwch fwy>>
Tystysgrif Addysg Uwch – Cyflwyniad i Addysgu Uwchradd
Nid oes gofynion derbyn academaidd ffurfiol, ond dylech allu dangos dawn mewn mathemateg, gwyddoniaeth, TGC neu ddylunio a thechnoleg, a dymuno cael hyfforddiant fel athro/ athrawes uwchradd.
- Bydd y cwrs yn eich paratoi i ateb y gofynion derbyn ar gyfer rhaglen radd 2-flynedd y BSc gyda SAC.
- Gellwch gwblhau’r cwrs o fewn blwyddyn yn llawn-amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.
- Nid oes angen ichi gwblhau cwrs Mynediad.
- Cysylltwch â Phrifysgol Cymru, Casnewydd am fwy o fanylion.




