Cyflog a Manteision
Faint fyddech chi’n ei ennill?
Mwy na fyddech chi’n meddwl!
- Mae athrawon sydd wedi cymhwyso yn cael eu talu yn ôl graddfeydd tâl sy’n cael eu diweddaru gan y Llywodraeth bob mis Medi. Byddwch chi’n cychwyn ar y ‘brif’ raddfa dâl a byddwch yn symud i fyny un cam bob blwyddyn, os bydd eich perfformiad yn foddhaol, nes i chi gyrraedd y lefel uchaf, neu’n symud i raddfa arall ar gyfer swydd wahanol neu lefel wahanol o brofiad.
- Wyddoch chi fod athro neu athrawes yng Nghymru, sydd newydd gymhwyso, yn ennill o leiaf £21,102 (o fis Medi 2009) ond fe allan nhw gychwyn yn uwch ar y raddfa os oes ganddyn nhw brofiad blaenorol?
|
Cymru a Lloegr (ac eithrio Llundain a’r cyrion) |
Canol Llundain | Llundain Fwyaf | Cyrion Llundain | |
| Prif raddfa gyflog, gan gynnwys athrawon newydd gymhwyso | ||||
| Mwyafswm | £30,842 | £35,568 | £34,326 | £31,855 |
| Lleiafswm | £21,102 | £26,000 | £24,552 | £22,117 |
| Cyfradd gyflog croesi trothwy | ||||
| Mwyafswm | £35,929 | £43,692 | £39,523 | £36,945 |
| Lleiafswm | £33,412 | £40,288 | £36,753 | £34,426 |
Ar ben eich cyflog sylfaenol, cewch amryw o fuddiannau eraill, gan gynnwys:
• Taliadau cyfrifoldebau dysgu – mwy o arian os byddwch chi’n derbyn mwy o gyfrifoldebau.
• Pensiwn athrawon – y cynllun pensiwn mwyaf ond un yn y sector cyhoeddus yng ngwledydd Prydain.
• Gwyliau – mwy o wyliau na llawer o bobl mewn proffesiynau eraill.
Mae athrawon yng Nghymru - o’r rhai sydd newydd gymhwyso i’r rhai sydd wedi cael statws prifathrawon – yn gallu ennill mwy o lawer na fyddech yn meddwl ac mae’r proffesiwn yn cynnig cyfleoedd ardderchog i symud ymlaen yn gyflym yn gynnar yn eich gyrfa. I gael gwybod am raddfeydd cyflog dysgu, edrychwch ar dudalen tâl a buddiannau’r TDA.




