Boddhad Swydd

Dysgu: swydd hynod gyffrous a boddhaol. Allech chi ddweud yr un peth am eich swydd bresennol?

  • Pa mor gyffrous yw’ch swydd bresennol?  Mae gwaith ymchwil i’r gwahaniaethau rhwng gweithio gyda phobl ifainc a gweithio gydag oedolion yn dangos bod athrawon yn gweld eu swyddi yn anarferol o gyffrous, a llawn mwynhad a boddhad. Cewch wybod mwy yma.
     
  • Yn ôl gwaith ymchwil a wnaed ar gyfer yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu i Ysgolion, "... mae athrawon yn cael boddhad o weld eu disgyblion yn datblygu, yn y tymor byr a’r tymor hir; maen nhw’n cael y gwaith yn foddhaol, cyffrous a hynod amrywiol. Mae’r ‘bwrlwm’ yn yr ysgol a’r cyswllt â’r disgyblion a’r cydweithwyr yn ychwanegu at y mwynhad."   Darllenwch fwy yn www.tda.gov.uk/joblab

Gwyliwch y fideo sy'n dangos athrawes ieithoedd tramor modern yn yr ysgol uwchradd ac fe welwch ddiwrnod nodweddiadol iddi hi yn yr ysgol, y cyfleoedd am ddyrchafiad yn ei gyrfa ynghyd â heriau a buddion swydd ddysgu. Mae’n well nodi bod hyfforddiant athrawon a dilyniant gyrfa yn debyg iawn yn Lloegr a Chymru ond bod rhai gwahaniaethau i’w cael rhwng y ddwy system.


North and Mid Wales Centre of Teacher Training  South East Wales Centre for Teacher Education South West Wales Centre for Teacher Education Open University