Sut i Wneud Cais
Cyrsiau ôl-raddedig
Bydd y Gofrestrfa Hyfforddiant Athrawon i Raddedigion (GTTR) ar agor i geisiadau o ganol mis Medi 2010. Am gyrsiau TAR Cynradd sy’n cychwyn ym mis Medi 2011 bydd angen gwneud cais i’r Gofrestrfa erbyn 1 Rhagfyr 2010. Cewch anfon cais ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ond rydym ni’n argymell eich bod yn cyflwyno’ch cais yn gynnar, yn enwedig i bynciau cystadleuol megis hanes neu ymarfer corff.
Cyrsiau israddedig
Cewch wneud cais i UCAS ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ond rydym ni’n argymell eich bod yn cyflwyno’ch cais yn gynnar; erbyn canol Ionawr 2011.
Y Brifysgol Agored
Dysgu Eto / Teach Again - Trevor Scott, ffôn: 02920 262770 neu 02920 471019 ebost: J.T.Scott@open.ac.uk
Paratoi i Ddysgu – ebostio Clare Schroder c.a.schroder@open.ac.uk
TAR Hyblyg – Cysylltwch yn uniongyrchol â’r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Rhaglen Athrawon i Raddedigion
Ceisiadau i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cliciwch yma>>
A hoffech air o gyngor ynghylch sut i wneud cais?
Gellir dod o hyd i lawer o wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu gan gynnwys cyfweliad rhyngweithiol. Saesneg yn unig.




