Cyn i chi hyfforddi
Tystysgrif Addysg Uwch: Cyflwyniad i Ddysgu Uwchradd
Mae’r cwrs yma i bobl sydd heb gymwysterau academaidd ffurfiol, neu sydd â dim ond ychydig o gymwysterau, ond bod ganddyn nhw ddawn am fathemateg neu gwyddoniaeth, ac sydd am hyfforddi i fod yn athrawon ysgolion uwchradd.
Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer gofynion mynediad rhaglenni gradd BSc sy’n para am ddwy flynedd ac yn rhoi Statws Athro Cymwysedig.
Mae’n bosib astudio’r cwrs hwn yn llawn-amser am un flwyddyn neu am ddwy flynedd rhan-amser. Does dim rhaid bodloni’r gofynion mynediad drwy ddilyn cwrs Mynediad cyn gwneud y Dystysgrif.
Paratoi i Ddysgu

Cwrs ‘rhagflas’ yn rhad ac am ddim i’r rhai sy’n ystyried gyrfa fel athrawon uwchradd.
Mae’r cwrs hwn yn hyblyg o ran pryd y cewch ei gychwyn a’i orffen, ac mae’n cynnig lleoliad byr mewn ysgol, hyrwyddwr yn yr ysgol, a thiwtor sy’n gallu cynnig cymorth.
Ar ddiwedd y cwrs dylai fod gennych syniad da ynghylch a ydy’ch personoliaeth yn addas i fod yn athro neu’n athrawes ac a oes angen llenwi ychydig o fylchau yn eich gwybodaeth am y pwnc.
Dyma’r pynciau a gynigir ar hyn o bryd:
Mathemateg, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Tramor Modern, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Cerddoriaeth, Addysg Grefyddol, Cymraeg, Saesneg.
Ymgeiswyr TAR yn unig
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: wales-teaching@open.ac.uk




