Newidwyr Gyrfa
Mae Prifathrawon heddiw yn credu bod hi’n bwysig i ysgolion gael digon o amrywiaeth yn eu staff, gyda chyfuniad o bobl a ddaeth i ddysgu o swyddi eraill a graddedigion a ddewisodd ddysgu fel eu dewis cyntaf ar ôl gadael y brifysgol.
Mae’r bobl sydd wedi newid eu gyrfaoedd yn dod â chyfoeth o sgiliau a dulliau gwahanol i’r dosbarth, gan gynnwys profiadau gwerthfawr a’r gallu i ddangos sut mae eu pwnc yn berthnasol i’r byd ehangach.
Os oeddech chi’n meddwl bod dysgu’n anaddas i chi, neu’ch bod heb y cymwysterau iawn i ddysgu, meddyliwch eto, efallai y cewch eich synnu!
Beth all dysgu ei gynnig i chi?
- Cyflog cystadleuol
- Cyfleoedd ardderchog i symud ymlaen yn eich gyrfa a gwireddu eich uchelgais.
- Cewch ddefnyddio’ch gwybodaeth o’ch cwrs gradd neu’ch arbenigedd.
- Proffesiwn sy’n ysbrydoli
- Boddhad eithriadol o weithio gyda phobl ifainc
- Amrywiaeth gwirioneddol bob dydd, prin iawn yw’r proffesiynau sy’n gallu cynnig cymaint o amrywiaeth.
Pa lwybr yw’r un gorau i chi?
Mae amrywiaeth o lwybrau ar gael i wneud hyfforddiant dysgu; mae’n dibynnu





