Yn y Brifysgol
Gwneud cwrs hyfforddiant dysgu drwy gorff sy’n darparu hyfforddiant dysgu yw’r llwybr mwyaf poblogaidd ar gyfer ennill statws athro cymwysedig. Mae hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn cyfuno dysgu damcaniaethol yn y brifysgol â hyd at 24 wythnos o brofiad dysgu ymarferol. Mae’r hyfforddiant cychwynnol hwn yn eich helpu i fagu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen i chi fod yn athro neu’n athrawes effeithiol.
Disgwylir y bydd gan y rhai sy’n dechrau ar lefel TAR wybodaeth dda am eu pwnc, mewn maes sy’n berthnasol i’w gradd fel rheol. Bydd yr israddedigion sy’n gwneud eu hyfforddiant dysgu ar yr un pryd â’u gradd yn datblygu eu gwybodaeth am y pwnc fel rhan o’u hyfforddiant dysgu.
Bydd rhai prifysgolion yn disgwyl i chi wneud lleoliad 10-niwrnod o dan gyfarwyddiad mewn ysgol cyn i’r cwrs gychwyn fel amod o gynnig lle i chi. Fel rheol mae hyn yn golygu wythnos mewn ysgol gynradd ac wythnos mewn ysgol uwchradd. Bydd y 10 niwrnod hyn (sef dwy wythnos) yn cyfrannu at y 24 wythnos o brofiad ysgol gofynnol. Bydd hyn yn cael ei drafod â chi yn eich cyfweliad.
Cewch ddewis gwneud eich hyfforddiant dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chael profiad dysgu ymarferol mewn ysgol Gymraeg. Mae cynllun ar waith i roi cymorth ariannol ac ieithyddol i fyfyrwyr sydd angen hwb i’w hyder, a hyfforddiant ychwanegol i’w helpu i ddysgu eu pwnc uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yng Nghymru does dim angen sefyll y profiad Sgiliau Cenedlaethol i gael dyfarniad Statws Athro Cymwysedig.




