Llwybr Yn y gweithle
Rhaglen Athrawon Graddedig
CYFLEOEDD O DAN Y RHAGLEN ATHRAWON GRADDEDIG 2011-12
Cliciwch ar y dolenni isod i weld sut mae gwneud cais ar gyfer pob categori. Mae yno hefyd arweiniad i bawb sy’n newydd i’r Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG).
* 12 lle wedi’u cyllido ar gyfer ysgolion uwchradd a gynhelir mewn mathemateg, ffiseg, cemeg a Chymraeg.
* 9 lle heb eu cyllido i ymgeiswyr heb Statws Athro Cymwysedig (SAC) ar gyfer Athrawon a hyfforddwyd dramor
(Gall 6 lle o’r 18 uchod sydd heb eu cyllido gael eu defnyddio ar gyfer pynciau â blaenoriaeth mewn ysgolion annibynnol)
30 lle ar y Rhaglen â chymorth grant hyfforddiant yn y sector cynradd
- Hyfforddeion ac ysgolion sy’n newydd i’r RhAG. Mwy o wybodaeth am Sut mae’r RhAG yn gweithio yng Nghymru a Sut i wneud cais
CEFNDIR Y RHAGLEN ATHRAWON GRADDEDIG (RhAG) YNG NGHYMRU
Llwybr i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon Graddedig ac mae’n cynnig ffordd i chi gymhwyso fel athro wrth eich gwaith. Bydd hyfforddeion yn dilyn rhaglenni unigol wedi’u cynllunio i’w helpu i fodloni gofynion safonau Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Yn ogystal â bodloni holl ofynion mynediad rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA), rhaid i ymgeiswyr ar gyfer RhAG feddu ar radd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc priodol h.y. pwnc sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion. Mae’r rhaglen yn para am flwyddyn fel arfer os caiff ei dilyn yn amser llawn, ond gall hyfforddeion sydd â phrofiad blaenorol perthnasol gwblhau’r rhaglen ynghynt (tri mis, amser llawn, yw’r cyfnod byrraf).
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol h.y. lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.
Dim ond un llwybr tuag at Statws Athro Cymwysedig yw’r rhaglen RhAG. Os nad oes cyfle i chi ymuno â’r Rhaglen oherwydd cyfnod eich astudiaethau neu oherwydd eich pwnc, mae’n werth i chi edrych ar y wefan hon http://teachertrainingcymru.org am opsiynau, darparwyr a ffynonellau cyllid eraill.
Os oes gennych chi gwestiynau cyffredinol am eich cymwysterau, os ydych chi am gael cyngor ar y llwybr gorau i chi fynd yn athro, neu os ydych chi am gael gwybodaeth am y trefniadau yn Lloegr, cysylltwch â’r Llinell Wybodaeth Addysgu, sef gwasanaeth gwybodaeth, trwy ffonio 0800 389 2500 neu 0800 085 0971 am y llinell Gymraeg. Gallwch hefyd fynd i http://www.tda.gov.uk. Yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth, gall y tîm o ymgynghorwyr addysg roi amrywiaeth o gyhoeddiadau am ddim i chi ar addysgu a hyfforddiant athrawon yng Nghymru a Lloegr.
LINK TO Dod yn Athro Cymwysedig: Llawlyfr Canllawiau - 2009
(yn cynnwys canllawiau manwl ar fodloni pob safon)
(yn cynnwys canllawiau manwl ar fodloni pob safon)
LINK TO Safonau Statws Athro Cymwysedig 2009
(yn cynnwys rhestr syml o’r safonau )
(yn cynnwys rhestr syml o’r safonau )
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y Rhaglen yng Nghymru ar ôl i chi ddarllen y dogfennau uchod cysylltwch â’r ganolfan HCA agosaf.
Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru: Laura Pritchard-Jones 01248 382933 l.pritchard-jones@bangor.ac.uk
Canolfan Addysg Athrawon De-Orllewin Cymru: Suzie Pugh 01792 482035 suzie.pugh@smu.ac.uk
Canolfan Addysg Athrawon De-ddwyrain Cymru: Sioned Dafydd 02920416528 sdafydd@uwic.ac.uk
Canolfan Addysg Athrawon De-Orllewin Cymru: Suzie Pugh 01792 482035 suzie.pugh@smu.ac.uk
Canolfan Addysg Athrawon De-ddwyrain Cymru: Sioned Dafydd 02920416528 sdafydd@uwic.ac.uk




