Ôl-raddedig

Mae nifer o ffynonellau cyllid a chymorth ar gael i chi fel athro/athrawes dan hyfforddiant tra eich bod yn cwblhau eich cwrs. Bydd yr hyn y byddwch yn gymwys i’w dderbyn yn amrywio yn ôl y math o gwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) y byddwch yn ei ddilyn, lle rydych fel arfer yn byw, y pwnc ydych yn cael eich hyfforddi i’w addysgu a lle  rydych yn hyfforddi, yn ogystal â’ch amgylchiadau personol.

Ar gyfer myfyrwyr 2012 yn amodal ar y cais a chymhwyster

Grantiau Hyfforddi
 
Caiff y ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon eu cyhoeddi’n flynyddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ynghylch y cymhellion posibl ar gyfera myfyrwyr sy'n cychwyn cyrsiau HCA ym mlwyddyn academaidd 2012/2013.


Cynllun Cymhelliant Cyfrwng Cymraeg (Uwchradd yn unig).

Mae’n bosibl y bydd hyfforddeion sy'n cychwyn cyrsiau HCA ac yn hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys ar gyfer  y Cynllun Cymhelliant Cyfrwng Cymraeg.  Cynigir y cymhelliant i hyfforddeion sydd angen cymorth ychwanegol i wella eu hyder yn eu gallu i addysgu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Gwneir penderfyniadau ynghylch pwy sy’n gymwys i dderbyn y cymhelliant gan ddarparwyr HCA unigol sy’n cymryd rhan yn y  cynllun. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ba cyrsiau sy'n gymwys i dderbyn y cymhelliant hwn gan ddarparwyr HCA. Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ynghylch y taliadau cymhelliant posibl  ar gyfer i f myfyrwyr sy'n cychwyn cyrsiau HCA ynm mlwyddyn academaidd 2012/2013.

Cyllid yn seiliedig gyflogaeth

Mae athrawon dan hyfforddiant ar y Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG) yng Nghymru yn derbyn cyflog gan eu hysgol.  Bydd hyn yn o leiaf y phwynt isaf ar gy raddfa gyflog i athrawon heb gymhwyso, ond mae'n bosibl y bydd eich ysgol yn dewis talu mwy i chi.  Gellir dod o hyd i'r holl wybodaeth ynghylch y Rhaglen Athrawon Graddedig yng Nghymru dan adran 'Llwybrau i addysgu yn seiliedig a gyflogaeth' y wefan hon.

Cymorth Ariannol Ychwanegol
Gall ffynonellau  eraill:

  • Y Lwfans Myfyrwyr Anabl
  • Cymorth Gofal Plant
  • Grant Oedolion - Dibynnol
  • Lwfans Dysgu i rieni
  • Cronfeydd Argyfwng wrth Gefn

Cwmnïau Cyllid Myfyrwyr

I gael gwybodaeth bellach, argymhellir eich bod yn cysylltu â'ch Cwmni Cyllid Myfyrwyr a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth a chyngor manwil i chi am y broses o gwneud cais.

Cymru - www.studentfinancewales.co.uk
Lloegr -
www.studentsupportdirect.co.uk
Gogledd Iwerddon -
www.studentfinanceni.co.uk
Yr Alban -
www.student-support-saas.gov.uk
Yr UE -
www.direct.gov.uk
  

 

North and Mid Wales Centre of Teacher Training  South East Wales Centre for Teacher Education South West Wales Centre for Teacher Education Open University