Y Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG)
Y RHAGLEN ATHRAWON GRADDEDIG 2012/13
Yn 2012-13 bydd pob rhaglen o dan y Rhaglen Athrawon Graddedig yng Nghymru yn cael ei rheoli gan y tair canolfan hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA).
Bydd y tair Canolfan HCA yn gweithredu ar ran darparwyr HCA sy'n seiliedig ar gyflogaeth at y diben o weinyddu a chyflenwi cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yng Nghymru. Bydd y Canolfannau HCA yn ystyried yr holl geisiadau a byddant yn penderfynu pa achosion i'w cefnogi a ffurf y ceisiadau, gan gynnwys pennu dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y Rhaglen Athrawon Graddedig, cysylltwch â'r Ganolfan HCA ranbarthol. Os bydd gennych ymholiadau, cysylltwch â’r enwau cyswllt yn y canolfannau HCA ar y dudalen hon:
Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru: Laura Pritchard-Jones 01248 382933 l.pritchard-jones@bangor.ac.uk
Canolfan Addysg Athrawon De-orllewin Cymru: Suzie Pugh 01792 482035 suzie.pugh@smu.ac.uk
Canolfan Addysg Athrawon De-ddwyrain Cymru: Sioned Dafydd 02920416528 sdafydd@cardiffmet.ac.uk
Cliciwch ar y dolenni isod i weld sut mae gwneud cais ar gyfer pob categori. Mae yno hefyd arweiniad i bawb sy’n newydd i’r Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG).
- 30 lle ar gyfer ysgolion uwchraddfel a ganlyn sef:
- 12 lle wedi’u cyllido drwy grant cyflog a grant hyfforddi ar gyfer ysgolion uwchradd a gynhelir mewn mathemateg, ffiseg, cemeg ieithoedd tramor modern a Chymraeg.
- 9 lle heb eu cyllido i ymgeiswyr heb Statws Athro Cymwysedig (SAC) ar gyfer athrawon a hyfforddwyd dramor neu athrawon a hyfforddwyd ym maes Addysg Bellach
- 9 lle heb eu cyllido ar gyfer Pynciau Galwedigaethol
(Gall 6 lle o’r 18 uchod sydd heb eu cyllido gael eu defnyddio ar gyfer pynciau â blaenoriaeth mewn ysgolion annibynnol)
- 12 lle wedi’u cyllido drwy grant cyflog a grant hyfforddi ar gyfer ysgolion uwchradd a gynhelir mewn mathemateg, ffiseg, cemeg ieithoedd tramor modern a Chymraeg.
- 30 lle ar y Rhaglen â chymorth grant hyfforddiant yn y sector cynradd
- Hyfforddeion ac ysgolion sy’n newydd i’r RhAG. Mwy o wybodaeth am Sut mae’r RhAG yn gweithio yng Nghymru a Sut i wneud cais
- Hyfforddeion ac ysgolion sy’n newydd i’r RhAG. Mwy o wybodaeth am Sut mae’r RhAG yn gweithio yng Nghymru a Sut i wneud cais
CEFNDIR Y RHAGLEN ATHRAWON GRADDEDIG (RhAG) YNG NGHYMRU
Yn ogystal â bodloni holl ofynion mynediad rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA), rhaid i ymgeiswyr ar gyfer RhAG feddu ar radd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc priodol h.y. pwnc sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion. Mae’r rhaglen yn para am flwyddyn fel arfer os caiff ei dilyn yn amser llawn, ond gall hyfforddeion sydd â phrofiad blaenorol perthnasol gwblhau’r rhaglen ynghynt (tri mis, amser llawn/un tymor ysgol yw’r cyfnod byrraf).
Mae Llywodraeth Cymru a darparwyr HCA sy'n seiliedig ar gyflogaeth yn croesawu ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol h.y. grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.
Dim ond un llwybr tuag at Statws Athro Cymwysedig yw’r rhaglen RhAG. Os nad oes cyfle i chi ymuno â’r Rhaglen oherwydd cyfnod eich astudiaethau neu oherwydd eich pwnc, mae’n werth i chi edrych ar y wefan hon http://teachertrainingcymru.org am opsiynau, manylion darparwyr HCA achrededig a ffynonellau cyllid eraill.
Os oes gennych chi gwestiynau cyffredinol am eich cymwysterau, os ydych chi am gael cyngor am y llwybr gorau i chi fynd yn athro, neu os ydych chi am gael gwybodaeth am y trefniadau yn Lloegr, cysylltwch â’r Llinell Wybodaeth Addysgu, sef gwasanaeth gwybodaeth, trwy ffonio 0800 389 2500 neu 0800 085 0971 am y llinell Gymraeg. Gallwch hefyd fynd i http://www.tda.gov.uk. Yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth, gall y tîm o ymgynghorwyr addysg roi amrywiaeth o gyhoeddiadau am ddim i chi ar addysgu a hyfforddi athrawon yng Nghymru a Lloegr.
- Dolen i’r ffurflen cyn gwneud cais cynradd
- Dolen i’r ffurflen cyn gwneud cais uwchradd
- Arweiniad i’r Cynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth 2011 (Rhif 32)
- Datganiad Polisi a Blaenoriaethau'r RhAG 2012
- Dod yn Athro Cymwysedig: Llawlyfr Canllawiau - 2009
(yn cynnwys canllawiau manwl ar fodloni pob safon)
- Safonau Statws Athro Cymwysedig 2009
(yn cynnwys rhestr syml o’r safonau )
Canolfan Addysg Athrawon De-Orllewin Cymru: Suzie Pugh 01792 482035 suzie.pugh@smu.ac.uk
Canolfan Addysg Athrawon De-ddwyrain Cymru: Sioned Dafydd 02920416528 sdafydd@cardiffmet.ac.uk




