Diwrnodau Blasu

A ydych yn meddwl tybed ai addysgu uwchradd yw’r yrfa i chi?

Dewch draw i Ddiwrnod Blasu i weld a yw addysgu uwchradd yn addas i chi!

Trefnir Diwrnodau Blasu gan ddarparwyr unigol o hyfforddiant i athrawon yng Nghymru trwy gydol y flwyddyn, ac maent, fel rheol, am ddim.  Er y bydd y rhaglenni’n amrywio, dyma rai o’r pethau a brofwch:

  • Cyfle i arsylwi gwersi mewn ysgol uwchradd leol
  • Cael dealltwriaeth o waith athro
  • Cyngor ar y llwybr a gymerwch at y proffesiwn addysgu
  • Cyfarwyddyd ar wneud cais a chael cyfweliad

Paratoi ar gyfer adysgu

Cwrs ‘blasu’ am ddim i raddedigion sy’n ystyried addysgu uwchradd fel gyrfa.

  • Cynigir amser cychwyn a gorffen hyblyg, lleoliad byr mewn ysgol, hwylusydd ysgol a chymorth gan diwtor.
  • Ar ddiwedd y cwrs, dylai cyfranogwyr wybod a ydynt yn addas o ran eu natur i fod yn athrawon, ac a oes ganddynt unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth bynciol.
  • Dyma’r pynciau a gynigir ar hyn o bryd: mathemateg, gwyddoniaeth, ieithoedd tramor modern, dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, cerddoriaeth, addysg grefyddol, Cymraeg, Saesneg. 
  • Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â wales-teaching@open.ac.uk  

Lleoliad Blas ar Waith GO Wales

Gall myfyrwyr a graddedigion yng Nghymru wneud cais ar gyfer Lleoliad Blas ar Waith GO Wales, sef cyfnod o brofiad gwaith di-dâl mewn unrhyw sefydliad sector cyhoeddus neu breifat. Gallwch ofyn am Leoliad Blas ar Waith mewn ysgol i gael profiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael gan eich man astudio. Cliciwch yma i gael rhestr o gysylltiadau.

 

 

 

North and Mid Wales Centre of Teacher Training  South East Wales Centre for Teacher Education South West Wales Centre for Teacher Education Open University